P-05-1125 Dylai deisebau sydd â dros 5,000 o lofnodion fod yn destun dadl, nid cael eu hystyried ar gyfer dadl yn unig
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Martin Obbard, ar ôl casglu cyfanswm o 69 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Os oes gan ddeiseb gefnogaeth 5,000 neu fwy, nid oes rhaid iddi fod yn destun dadl yn y Senedd; cael ei 'hystyried' ar gyfer dadl yn unig y mae.
Holl reswm deisebau yw cyfleu llais y cyhoedd. Ar hyn o bryd, os yw deiseb yn cael ei chefnogi'n gryf gyda dros 5,000, dim ond cael ei 'hystyried' ar gyfer dadl y mae.
Mae’n amlwg bod deiseb gyda'r fath gefnogaeth o ddiddordeb i’r cyhoedd, ac felly fe gredaf y dylai fod yn destun dadl bob tro, i sicrhau bod barn y bobl yn cael ei hystyried.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Sir Drefaldwyn
· Canolbarth a Gorllewin Cymru